DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 2025

DYDDIAD

18 Rhagfyr 2025

GAN

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

 

Ar 28 Hydref fe wnes i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn rhoi gwybod i Aelodau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gosod drafft o Orchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 gerbron Senedd y DU.

Mae’r Gorchymyn hwnnw nawr wedi’i gymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd ac wedi’i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 15 Rhagfyr 2025.